Pan nad yw’n brysur yn mynd i’r afael â phroblemau’r byd, mae’r Arlywydd Barack Obama’n hoff o ymlacio gyda bocs o siocledi blasus. Caiff ei ffefrynnau eu gwneud gan Fran’s Chocolates of Seattle.
Mae gan y rhain gynhwysyn arbennig iawn sy’n eu gwneud yn hynod o flasus. Ac mae'n dod yr holl ffordd o lannau’r Fenai yn Ynys Môn.
Halen Môn.
Mae Halen Môn Mwg Derw Cymreig, yn arbennig o flasus wedi ei ysgeintio ar ben siocled.
Caiff eu Halen Môn Fanila ei wneud gyda chodennau o Tahiti, ac mae'n ychwanegu blas at bysgod cregyn. Mae eu Halen Môn Sbeis, sy’n cynnwys coriander, tyrmerig, nytmeg, sinamon a chlofs, yn trawsnewid eich tatws rhost.
A pheidiwch hyd yn oed â gofyn am eu Halen Môn Seleri Organig. “Byddai wyau Sofliar ar goll hebddo,” meddai Sam Rosen-Nash, sy’n prynu bwyd ar ran Fortnum & Mason.
Mewn 14 o flynyddoedd mae David ac Alison Lea-Wilson o Halen Môn wedi troi sosban o heli yn ffrwtian ar yr Aga yn ffenomen fyd-eang ym maes coginio.
Mae rhai o’n prif gogyddion fel Heston Blumenthal, Gordon Ramsay a Hugh Fearnley-Whittingstall wedi gwirioni ar y crisialau halen. Mae halen môr o ddyfroedd arbennig Ynys Môn yn cael ei ddefnyddio mewn 50 o fwytai gorau’r byd.
“Mae ein lleoliad yn hollbwysig i’n llwyddiant gan fod gan Gymru ddelwedd mor lân,” meddai Alison. “Rydym yn falch o Fôn, lle mae ansawdd bywyd yn anhygoel a’r bwyd yn ddiguro.”
Dydi rhai pethau byth yn newid. Yn y gorffennol cyfeirid at Ynys Môn fel Môn Mam Cymru, oherwydd y cynnyrch a dyfid yno. Mae’r borfa llawn meillion a bywyd y môr yn dal i gynhyrchu mwy o arwyr bwyd fesul milltir sgwâr nag unman arall yn y wlad.
Gallwch gyfarfod y rhan fwyaf ohonynt ym Mhorthaethwy ar y trydydd dydd Sadwrn o bob mis. Ym
Marchnad Ffermwyr Môn daw mwy na 30 o gynhyrchwyr bwyd lleol ynghyd o dan yr un to. Maen nhw’n cynnig danteithion sydd wedi cael eu gwneud, eu piclo neu eu dal y bore hwnnw.
Er enghraifft
Deri Môn, sydd wedi ennill Gwobrau Cymru y Gwir Flas am ddraenog y môr gwyllt mwg Ynys Môn.
Y Cwt Caws, sy’n cynhyrchu caws gafr gyda llaeth eu geifr Saanens, Toggenburgs a’r Alpines.
Neu David a Julia Livingstone perchnogion
Cimychiaid a Chrancod Bae Cemaes, a’u cynnyrch arbennig, fyddai hyd yn oed yn fwy blasus fyth gyda mymryn o Halen Môn Fanila.