
Rhoscolyn
Dim ond 850 milltir i fynd
Mae 2012 yn mynd i fod yn flwyddyn bwysig i gerddwyr, oherwydd dyna pryd y bydd llwybr arfordirol cenedlaethol cyntaf y byd yn agor yn swyddogol.
Llwybr sy’n mynd o gwmpas arfordir gwlad gyfan. Cymru, fel mae'n digwydd.
Gan fod Cymru wedi ei hamgylchynu gan fôr ar dair ochr, mae’n golygu ei bod yn gryn daith – ac yn gryn her. Mae’n daith o 850 milltir gyda golygfeydd godidog di-dor ar hyd yr arfordir. Ac mae 125 milltir o Lwybr Arfordirol newydd Cymru gyfan yn Ynys Môn.
Mae pobl yn tueddu i feddwl bod tirwedd Ynys Môn yn eithaf gwastad, ond peidiwch â meddwl y bydd y rhan yma’n haws. Os cerddwch chi ar ei hyd i gyd byddwch wedi dringo tua 4,174 metr, neu 13,694 troedfedd.
Mae hynny’n gyfystyr â cherdded i fyny’r Wyddfa. Dair gwaith a hanner. Efallai y byddai’n well dechrau gyda llwybr arfordirol Ynys Môn cyn mentro ar hyd llwybr gweddill Cymru.
Dylai gymryd tua 12 diwrnod (os ydych yn cerdded yn gymedrol). Neu os ydych awydd taith fwy hamddenol gallwch gerdded y rhan fwyaf gwastad (ceisiwch osgoi Mynydd Caergybi).
Neu byddech yn gallu rhoi cynnig ar un o’r
teithiau byr ac amrywiol sy’n cysylltu â’r llwybr arfordirol. Cylchdeithiau a theithiau syth. Teithiau treftadaeth, teithiau bywyd gwyllt a ‘llwybrau geo’ - mae Ynys Môn yn enwog am ei chreigiau.
Ble bynnag ewch chi, bydd rhywbeth i ryfeddu ato. Mae Don a Mary Verbick o Minnesota wedi teithio ar hyd a lled yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Ond ers cael eu gwahodd i gerdded ar hyd ein llwybr arfordirol yn ystod Gwyliau Cerdded Ynys Môn mae Mary yn dal i sôn am y profiad.
“Roedd yr amser a gawsom yn Ynys Môn yn llawn o ddigwyddiadau gwych,” meddai. “Buom yn cerdded ar hyd clogwyni’r môr, traethau tywod, traethau creigiog, coetiroedd, twyni, corsydd, mynyddoedd, porfa - dw i’n siŵr mod i wedi anghofio rhywbeth! Roeddwn wrth fy modd gyda’r amrywiaeth o blanhigion, yr adar, y golygfeydd dramatig, y defaid gwlanog, yr awyr diderfyn, y gwynt, y glaw, yr heulwen, sŵn y môr - popeth.”