Efallai mai Ynys Môn yw’r ynys fwyaf ym Môr Iwerddon, ond mae rhai pobl yn dal i synnu ein bod yn gallu cynnig naw cwrs golff.
Pan mae gennych chi 278 milltir sgwâr o gefn gwlad a thir ar hyd yr arfordir, heb sôn am olygfeydd trawiadol o Eryri, byddai’n resyn peidio ag ychwanegu ambell grin a darn cam.
Ac er bod ein cyrsiau o fewn tafliad carreg i’w gilydd, mae pob un yn wahanol. Deunaw twll a naw twll. Parcdir, rhostir a lincs.
Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau. Byddem yn argymell eich bod yn buddsoddi mewn Tocyn Golff Ynys Môn sy’n costio £79, sydd yr un faint ag y byddai’n ei gostio i chwarae am un rownd ar un o brif gyrsiau yr Alban neu Iwerddon.
Ond gyda’r tocyn gallwch chwarae rownd mewn pum gwahanol gwrs. Neu ar yr un cwrs bum gwaith, os yw’n well gennych chi. Pa un bynnag fyddwch chi’n ei ddewis, mae'n debyg y byddwch chi’n am dreulio wythnos yma - dyna pam y gallwch chi archebu lle mewn gwesty’r un pryd.
Heb anghofio’r cwrs diweddaraf i ymuno â nhw -
Storws Wen ger pentref Benllech. Mae naw twll yma a thra byddwch yn chwarae ar ei ffyrdd teg tyn neu’n ceisio osgoi’r dŵr cewch olygfeydd godidog o Draeth Coch.
Mae hefyd yn cynnig llety am bris rhesymol. Mae pedwar bwthyn yn edrych dros y nawfed grin, dafliad carreg i ffwrdd o’r ti cyntaf.