Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Trac Môn

Troi a throelli

Ceir golygfa eithaf da o lethr gwelltog sy’n edrych dros y môr ger Aberffraw.  I’r chwith, gwelir mynyddoedd Eryri yn codi ac, i’r dde ohonoch, y mae’r traeth tywodlyd yn ymestyn yn Rhosneigr.

Ac islaw i chi y mae’r Corcsgriw (‘The Corkscrew’).  Rhwystr gosod, serth, i lawr allt, y mae llond trac o geir rasio yn llifo trwyddo gyda’u hinjans yn sgrechian.

Dyma Trac Môn, un o’r traciau rasio a chanddo’r lleoliad mwyaf ysblennydd yn y byd.  Dim ond Phillip Island, cartref MotoGP bike GP Awstralia, sy’n dod yn agos.

Fe gafodd yr hyn a oedd unwaith yn wersyll hyfforddi radar a thaflegrau i’r fyddin, ei ailddatblygu am gost o £3.6 miliwn yn 2007.  Ceir yno bellach bedwar cyfluniad trac gwahanol sy’n cyfuno cambrau llawn dychymyg, rhannau cyflym, bachdroeon a chornel ar oleddf o 10%, sydd bron yn unigryw.

Does dim syndod fod Richard Hammond o ‘Top Gear’ yn meddwl ei fod yn lle da am dipyn o hwyl gyda Bowler Nemesis a thri hofrennydd.                                

Yn 12 metr o led, Trac Môn yw’r trac rasio lletaf ym Mhrydain, ar wahân i Silverstone. Sy’n caniatáu digon o oddiweddyd cyffrous yn ei rasys ceir a beics.  Yn ogystal, cynhelir yno sbrintiau ceir, ralïau fesul cam a diwrnodau trac nad ydynt yn rhai cystadleuol.

Ac mae’n gartref i’r Ganolfan Yrru Ceir Perfformiad a redir gan y cyn-yrrwr ceir rasio Richard Peacock.  Sy’n digwydd bod y dyn a gynlluniodd y trac newydd o’r dechrau, gan gychwyn gydag ychydig o sgribliadau ar ddalen o bapur A3.

Mae’n hyfforddi pawb, o ddarpar yrwyr rasio i’r rheiny sydd ddim ond ag awydd mynd mewn car un-sedd pwrpasol ar gyfer trac, neu uwch-gar fel Lamborghini Gallardo.
Yn ôl Richard, “Rhaid i chi symud y cyflymydd a’r brêcs yn llyfn i yrru car”. “Y peth gwaethaf y gallwch ei wneud ar drac rasio ydi rhuthro ar ei hyd. Yr hyn sy’n bwysig ydi lleoli’r car yn gywir a’r modd rydych yn gweithredu’r throtl.”


“Dydym ni ddim yn ceisio rhoi gwersi gyrru ar gyfer y ffordd, ond mae’n saff o wneud rhai sy’n cymryd rhan yn yrwyr gwell a mwy diogel.”

All fod yn syndod i rai. Ond wedyn, mae Trac Môn yn herio disgwyliadau, yn ogystal â’r modd rydych yn ymateb, ar bob troad. Dydy chwaraeon modur ddim wedi difetha’r lleoliad arfordirol bendigedig hwn - mae wedi’i wella. Ers datblygu’r trac, datganwyd dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gerllaw. Felly mae gennym adar, gloÿnnod byw a sgwarnogod prin yn ogystal â’r ‘Hamster’.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

dolenni

Ceir isod dolenni i fanylion ar ddau atyniad chwaraeon modur Ynys Môn

Trac Môn
Cartio Môn Karting
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :